Digwyddiadau o Ddiddordeb

Tudalen gartref

Cystadleuaeth

Eleni, ym mis Mawrth, cynhaliwyd cystadleuaeth gan Gymdeithas Wyddonol Cylch Caerdydd, ar gyfer myfyrwyr Blynyddoedd 12 a 13, gyda nawdd gan y Sefydliad Ffiseg. Bu’r fenter yn llwyddiant trawiadol. Ar sail y profiad hwn, mae’r Gymdeithas yn cynnal y gystadleuaeth eto.

Gofynnir i ymgeiswyr, yn unigolyn neu grŵp hyd at dri aelod, lunio cyflwyniad ar unrhyw destun gwyddonol gyda chysylltiad Cymreig, Gall hyn fod yn bortread o wyddonydd a'i (g)waith neu gyflwyniad ar arloesiad neu waith ymchwil penodol. Gall y cyflwyniad fod ar unrhyw ffurf, er enghraifft, sgwrs, fideo, sleidiau ac yn y blaen. Bydd angen i'r cyflwyniad fod rhwng 7 a 10 munud. Cynhelir y gystadleuaeth ar NOS LUN. IONAWR 20, 2020. Disgwylir i ymgeiswyr gyflwyno’u deunydd o flaen panel o feirniaid ac aelodau’r Gymdeithas Wyddonol. Bydd £600 o wobrau i'w rannu yn ol doethineb y beirniaid.

Dyddiad cau at dderbyn bwriad i gystadlu ac amlinelliad o’r gwaith: 13 RHAGFYR 2019

Anfoner am wybodaeth bellach at cymdeithas.wyddonol@gmail.com neu at 0791325 7371

Os hoffech fwy o wybodaeth, dewch i'n cyfarfodydd, neu cysylltwch ac ysgrifenyddion Cymdeithas Caerdydd ar y cyfeiriad: Cymdeithas.Wyddonol@gmail.com

Top

Tudalen gartref