Cefais fy ngeni yng Nghaerdydd ar ddiwedd y chwedegau ac es i ysgol Bryntaf sydd nawr wedi diflannu ac yna i Ysgol Glantaf. Ar ôl gwneud gradd ym Mhrifysgol Manceinion es i weithio i Blanetariwm Amgueddfa Lerpwl cyn mynd i wneud graddau pellach ym Mhrifysgolion Caeredin ac yn Adran Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, gweithiais i yn adran Caerdydd hefyd.
Dros y blynyddoedd rwy wedi gweithio i nifer of bobl eraill, rwy'n cyfrannu i Radio Cymru a S4C yn rheolaidd ar faterion gofodol a seryddol. Gweithiais hefyd i Techniquest yn gwneud cyflwyniadau yn yr Ogof Ofod ac i Gyd-Bwyllgor Addysg Cymru fel cyfieithydd. Gweithiais hefyd i Glwb Ifor Bach amser maith yn ôl.
Cliciwch yma i fynd nol i'r
dudalen gymraeg gyntaf.
Os oes gennych sylwadau ar y tudalennau yma
danfonwch
ebost .