|
Tudalen gartref
Gwahoddiad i Farddoni 2011
Unigolyn
Unrhyw oedran
Unrhyw destun gwyddonol (gan gynnwys peirianneg, meddygaeth, mathemateg ac ati)
Unrhyw ffurf farddonol (heb fod dros 100 gair)
Dyfernir gwobrau erbyn Hydref 1af 2011 trwy haelioni Cymdeithas
Wyddonol Cylch Caerdydd
Anfoner eich cyfansoddiad, ffugenw, enw iawn a chyfeiriad at Neville
Evans, 29 Ravensbrook, Treforgan/Pentrepoeth, Caerdydd CF15 8LT neu at
nevilleevans@totalise.co.uk erbyn Awst 15, 2011. Os am air cysylltwch
ar 0791 325 7371
Mae'r wybodaeth uchod ar gael ar ffurf dogfen 'word' y gellir ei hargraffu a'i dosbarthu yma.
Barddoniaeth am Fwydod
Yn ei fyd mae'r hen fwydyn - yn herio
Ac awyru'r priddyn
A thry ei doiled wedyn
Yn nodd iach a bwyd i ddyn
Y Prifardd Aled Gwyn
Yn hwylus fe dwnela - yn y mwd
symudol fanana
A'r ddol fel gorgonzola
Ar ei ol ple bynnag'r a.
Y prifardd John Gwilym Jones
Top
Tudalen gartref
|